Wel mae fy nhad yn 64 heddiw- wrth lwc mae e dal yn llawn joie de vivre ac, yn sbwci iawn, heb ddim wrinkles… Dorian Gray ardal Gorslas.
Sdim lot wedi digwydd ers fy mhost diwetha. Dwi’n pissed off mod i dal heb golli pwysau!!! O’n i’n gwylio ’10 years younger’ neithiwr ar Channel 4 ac yn gwylio’r fenyw ma’n cael facelift – o’dd e’n horrible achos o’dd y ffat i gyd yn felyn o dan ei chroen ni. Licen i se fi’n gallu cael body lifft a thorri 3 ston o fflab off – ond dwi’n ofni operations felly bydd rhaid i fi gario mlaen starfio fy hun am ddwy flynedd a llusgo fy nhin o’r gadair waith/cadair gwylio teledu adre ac ymarfer corff, i golli’r chub melltigedig yma. Diolch i Dduw mod i’n agos i 6 troedfedd o daldra neu fydden i fel babi eliffant!
Pethe eraill sy’n annoyo fi:
1) Pobol sy’n araf yn mynd yn eu ceir pan mae’r golau gwyrdd yn dod mlaen
2) Pobol sy’n berchen ar fwy nag un ty -rhan fwyaf o’r bobol sy’n ‘Location Location’ yn chwilio am ‘crash-pad’ in the city and a country home. Fel arfer eu henwau yw Pogo a Jemima neu Marcus a PJ neu rhyw grap fel na.
3) Diffyg arian yn gyffredinol. Pe bai gen i filiynnau buaswn yn cwito fy job, sgwennu trwy’r dydd, teithio’r byd, prynu loads o offerynnau cerdd a chael amser neis iawn. Yr eironi yw erbyn bo chi wedi ennill digon o arian i ymddeol, da chi’n hen ac yn fusgrell ac yn methu mynd i unman eniwei. Such is life.
Dwi’n mynd allan heno i barti penblwydd 30 fy ffrind. Mae’n neis bod pawb nawr yn dal i fyny gyda fi ac yn glanio ym myd depressing y 30gau.