Magic Eirwen

Just another WordPress.com weblog

Hello world! March 4, 2007

Filed under: Uncategorized — magiceirwen @ 6:11 pm

 Mawrth 5 2007, 10.45am

Sain gwbod pam dwi’n sgwennu hwn-does neb yn mynd i ddarllen o- a wel!! It will be good for posterity pan fyddai’n enwog fel Agatha Christie am sgwennu nofelau exciting.  A bydd pawb o’r cyfryngau yn ei ddarllen e ac yn dweud ‘Who would have thought she had this amazing diarist’s gift?  Move over Pepys, Alan Clark and Quentin Crisp, there’s a new diarist in town! Magic Eirwen!”

 Wel oedd y weekend yn O.K.  Dau berson yn aros hefo ni ac un yn rili swnllyd – fel ffog-horn o’ Ogledd Lloegr.  Dwi wedi darganfod mod i’n berson anti-social iawn ac yn rili ddim yn licio cael pobol (dwi ddim rili yn hoffi) yn aros gyda fi dros benwythnos.  Dwi wedi cael fy magu ar ben fy hun ac wedi arfer cael llonydd pan mae ei angen e. 

Pethe sy’n annoyo fi:

1.  Pobol sy’n cymeryd achau i ffeindio eu harian yn y ciw yn Tescos – fel arfer mae rhain yn hen bobol/mamau gyda prams/tramps/dryg addicts/stiwdents. Basically pawb sy’n defnyddio Tescos. Dwi bob amser yno’n barod gyda fy arian yn fy llaw. Sawl munud o fy mywyd dwi wedi gwastraffu’n barod yn aros mewn ciws?

 2. Pobol sy’n dweud wrtho fi i roi fyny smygu. Dwi’n gwybod bod fy ysgyfaint yn mynd i fod fel dwy kidney bean crebachlyd cyn hir, a dwi ishe rhoi i fyny. Ond bore ma, daeth un o’r menywod yn gwaith i fyny ataf – mae’n fenyw rili neis ond dwi ddim yn nabod hi’n rili dda achos dwi ond wedi bod yma am 8 wythnos a dweud wrthof : “I’ve been thinking about it a lot and I think you should give up smoking”.  Ddim beth chi ishe clywed am 10am y bore ar fy ail goffi a fy mhedwerydd sigaret!  Wnes i wrando’n boleit ond dwi’n meddwl welodd hi’r ‘evils’ wnes i roi iddi ac aeth hi i ffwrdd wedyn.

3.  Biliau a llythyron cas – Dwi’n cael rhain bob dydd! Boed law neu heulwen, mi fydd na lythyr dirmygus wrth y Cyngor/Banc/Credit cards/Traffic violations/Next Directory yn aros amdanaf. Annwyl Miss Eirwen…. ac yn y blaen!  Pam se nhw’n derbyn fy athroniaeth existenstialist i – da ni ar blaned ynghanol yr iwnifers ac mae’n swreal y diawl ein bod ni yma beth bynnag. Pam mae rhaid poeni am bethe trivial fel biliau ac yn y blaen?  Byddwn yn farw cyn hir eniwei!

Eniwei, dyma ddiwedd fy rant cyntaf i, dwi’n eitha mwynhau hwn. Wi wastad wedi meddwl ma weirdos sy’n blogio, weirdos sy’n meddwl lot am eu hunain ac eisiau pobol i ddarllen eu bullshit nhw. Wel, nawr, dwi hefyd yn weirdo. Ond falle fod e rhywbeth i wneud gydag unigrwydd hefyd, achos does neb rili ishe gwrando ar ‘stream of consciousness’ rhywun random fel arfer. hwyl a fflag!

 

2 Responses to “Hello world!”

  1. Mr WordPress Says:

    Hi, this is a comment.
    To delete a comment, just log in, and view the posts’ comments, there you will have the option to edit or delete them.

  2. Rhys Says:

    Joio darllen dy Bullshit di, lot mwy doniol na’r blogiau eraill FI FI FI 😉

    Ta waeth, mae blog gyda fi, ond un sy’n hynod difyr a llawn ffraethineb (oes ffasiwn air?) wrth gwrs, ra ra ra……..


Leave a comment