Dyma blog rhif 2. ‘Roeddwn yn darllen bywgraffiad ar fywyd y cyfarwyddwr, Tim Burton neithiwr, ‘Burton on Burton’, mae e’n rili diddorol. ‘Roedd gan Tim theori bod pawb o’dd yn ‘oddballs’ neu’n geeks yn ysgol yn troi mas i fod yn fwy llwyddiannus na’r pobol poblogaidd hynny oedd yn ysgol – y jocs a’r merched o’dd pawb eisiau mynd allan gyda. O’n i yn eitha odd-ballaidd yn ysgol. Does neb eisiau mynd mas da rhywun sy’n chwarae accordion yn broffesiynol yn 12 oed… Ond, ta waeth, it made me who I am today – loser!
Un peth sy ddim wedi newid ers pan o’n i’n ysgol -yw cael crushes rhyfedd ar bobol. Pan o’n i’n 8 oed ces i crysh ar foi o’r enw Stuart Roderick ac o’n i’n rili licio fe. Sain gwybod pam, falle achos ei fod e’n eitha geeky hefyd. Ond doedd e ddim rili yn talu lot o sylw arna i felly o’n i’n cerdded rownd yr iard ar ben fy hun yn canu er mwyn edrych yn ‘ddiddorol’ i dynnu ei sylw fe. Wnaeth e ddim gweithio. Dyddiau yma dwi ddim yn cerdded rownd iard ond dwi yn eitha ‘blatant’ -ond, carpe diem ac ati – does dim pwynt difaru peidio cymeryd y ‘plunge’. Ond yn anffodus mae gen i ddilemma nawr sydd yn rhy gymhleth i ymelaethu arno fe yn Blog rhif 2 felly fe gadwai hwnna nes bod ni’n adnabod ein gilydd yn well…
Dwi wedi bod yn synfyfyrio tipyn am ddynion modern yr 21g. Ac mae llawer o gariadon fy ffrindie yn ennill llai o arian na nhw, yn eitha mewnblyg a di -gyfeiriad heb lawer o fflach yn perthyn iddynt. Ble mae’r hen Alpha Male- y knight in shining armour neu ‘hero’ chwedlonol Bonnie Tyler wedi mynd? Dwi’n dueddol o ddewis yr un teip dro ar ol tro – y rhai sydd eisiau mam!! Hoffwn ddyn ifanc (wastad yn mynd am toyboys), Cymraeg, cerddorol, creadigol,doniol i fod yn arwr i fi. Mae gen i un mewn golwg, ond mae yna anhawsterau i’w datrys! Dyma gategoriau dynion Caerdydd:
1 Y twats sydd yn mynd i glybiau Nos Wener/Sadwrn mewn crysau shiny o River Island, gyda’r new mullets neu hair-dos gor-spiky am eu pennau. Fel arfer, dyw rheiny ddim yn ymddiddori yn y ‘thinking woman’ ond yn mynd am bimbos cyffelyb sy’n fine.
2. Yr arti -teip – Y rhai sydd â gwallt Razorlight, eu pants yn hongian allan o’u jins, sydd yn hoffi bandiau da fel Kings of Leon/White Stripes. Rhain yw’r teipiau dwi’n mynd amdanyn nhw fel arfer, ond mae na downside. Does dim arian da rhein fel arfer, ma nhw’n chwilio am fam ac yn dueddol o fod yn HYNOD o moody ac yn eitha backward yn y gwely!
3 Y teip busnes – Gweithio’n y dre – cyfrifwyr/cyfreithwyr a’r chwedlonol DOCTORIAID IFANC. Dwi ERIOED wedi cwrdd gyda un o’r rhain achos dwi ddim yn mynd i’r clybiau posh ma nhw’n eu mynychu. Dwi’n meddwl fyddai rhain yn eitha boring i fynd allan gyda nhw -felly dyw’r golled ddim yn fawr.
4 Y gang rygbi Cymraeg – biffi, habitat naturiol yw’r Mochyn Du, City Arms a.y.y.b. Ddim yn hoffi ‘physique’ rhain. Er mod i’n ferch dal, dwi’n hoffi dynion sy ddim yn rhy ‘meaty’ achos ma rheiny yn codi braw arna i. Er mae yna rhywbeth neis am gael cwlffyn o ddyn i fod yn amddiffynydd i fi os fyddai ffeit!
Eniwei, dyna ni am heddiw! TTFN!