Magic Eirwen

Just another WordPress.com weblog

Mawrth 30 2007 -Hyncs heb dryncs March 30, 2007

Filed under: Uncategorized — magiceirwen @ 12:58 pm

Wel nawr bod teitl y blog wedi denu eich sylw -dwi am siarad am fryngaerau Cymru…. gan cwotio y pethe mae’r Eos wedi dysgu i fi… Dim ond jocian!!! Mae’r Eos gafodd ‘First’ yn ei radd Hanes yn browd iawn o’i wybodaeth am fryngaerau ac yn wir mae ei draethawd M.A. yn cael ei ddefnyddio yng nghyfres y BBC, ‘The Sleep Clinic’ ar hyn o bryd i helpu dioddefwyr Insomnia.  Dim ond jocian Eos bach!!

Es i weld y ffilm ‘300’ neithiwr – gan obeithio weld hyncs heb dryncs. Oedd, roedd na ddynion hanner noeth gyda mwy o six packs na changen Threshers ond dim lot o sex yn perthyn iddyn nhw. ‘Roedd y stori’n sal – yn ddioglyd, heb ddyfnder ac er bod y gwaith camera a steil gweledol y ffilm yn rili dda (fel arfer gyda’r run criw a wnaeth ‘Sin City’), siomedig oedd o mewn gwirionedd. 5 allan o 10.  Ceisio copïo ‘Gladiator’ ond yn methu. Yn y ‘trailers’ roedd 2 ffilm ‘B’ movie 50’s aidd o waith Tarantino a Rodrigez sy’n edrych yn wych. O’dd y trailers yn rili dda a dwi’n bendant yn mynd i’w gweld!

Dwi’n gobeithio mynd i weld arddangosfa luniau Angus McBain yn Amgueddfa Caerdydd Dydd Llun. ‘Roedd e’n ffotograffydd gwych – ac yn hoff ffotograffydd fy eilun, Vivien Leigh a fe dynnodd y lluniau swreal hynod o Audrey Hepburn pan oedd hi’n dechrau ei gyrfa. Mae na lyfr o’r lluniau ar werth yno ond mae’n £25 sydd braidd yn ddrud. O’n i wedi gwahaodd yr Eos i ddod gyda fi er mwyn ei ddysgu am chydig o ddiwylliant ond mae e’n poeni fydd pobol yn dechrau siarad amdanom yn gwaith a’n bod yn cael affair. Eos bach, dylet ti fod yn delighted fod ‘older woman’ diwylliedig fel fi yn dangos diddordeb mewn creadur bach truenus fel ti!! Dyrchafa dy lygaid at y mynyddoedd yn lle’r bryngaerau melltigedig yna!

Dwi’n siwr byddai Idwal yn fodlon dod gyda fi i edrych ar luniau Mr McBain, mae Idwal yn swnio’n gês a hanner -sgwn i a wna i glywed wrtho fo heddiw?

Dwi’n cwrdd â SPJ fory am pow-wow. Ac iddi hi, dyma fy ngwr perffaith heddiw, Mr John Simms (o Life on Mars).  Dwi’n meddwl hoffwn gael det gyda Mr Simm yn 1973.  Blwyddyn lledrithiol -pan ganwyd fi a glam rock!   Buaswn yn mynd ag e allan am noson fondue retro, yna mynd i’r sinema i wylio ‘The Exorcist’ neu ‘The Wickerman’ – dwy glasur a wnaethpwyd yn ’73 ac yn ffilmiau scary iawn – yn fwriadol felly er mwyn iddo cael dal fy llaw yn neis a rhannu ei pick and mix hefo fi!!  Yna mynd am reid cyffrous yn ei gar retro cyn mwynhau glasiad o Blue Nun dros olau’r gannwyll…  HA HA SPJ!!  Does neb ar ôl gen ti nawr!

 

Leave a comment