Wel dwi heb flogio ers dipyn -can’t be arsed yw’r rheswm pennaf ond gan fod gen i dros hanner awr yn ol yn gwaith, meddwl y dyliwn gadw fy ffans (dychmygol) ‘up to date’ gyda treialon trwstan fy mywyd bach pitw.
Wel, does dim byd exciting iawn wedi digwydd… Fel arfer dwi wedi bod yn gwylio lot o ffilmiau ac yn yfed tipyn o win a rym – ma rym yn addictive dros ben – dwi wedi dod i arfer nawr cael ‘sniffter’ bach tua 9pm ac yn eitha pissed off snag oes gen i ddim yn y ty. Dwi ddim eisie dechrau ymdebygu i Sue Ellen (Dallas) yn ei hanterth yn gwneud llygaid llo ar ôl meddwi a dechrau cael affair gyda rhywun fel Cliff Barnes… Ah… Dallas, dyddiau da fy mebyd.
Wel, mae gwaith yn eitha anodd ar hyn o bryd-diffyg brwdfrydedd sydd yn effeithio fi a’r Eos yn fwy na dim gan fod ein syniadau yn cael eu defnyddio fel cadach sychu tin gan Herr Himmler draw yn *****. Hoffwn i fod yn Gomisiynydd Rhaglenni Teledu, cael fy nhalu crocbris am wneud S.F.A. Ond dwi ddim yn hongian o gwmpas yn y Cameo, dwi ddim yn alcoholic/anger management case/mab/merch i rywun enwog/ex pennaeth Newyddion yn y BBC, felly dyma lle fyddaf yn y ‘mid to low range’ o allu economaidd yn gwneud fy 9 to 5 yn biwis nes y byddaf yn fy nghoffin. Jiw, dwi mewn mwd positif heddiw!!
Ges i ‘hair’ disaster dros y penwythnos -yn ‘bored’, prynais focs o liw gwallt ‘vanilla blonde’ yn yr ymdrech i ddod yn honey blonde (gan fod gen i wallt brown canolig, dyma oedd y lliw o’n i fod i fod ar ol defnyddio’r bocs bach hudol). Yn anffodus, ar ol 30 munud o eistedd yn y bath yn darllen memoirs gwych y Movie Mogul, Robert Evans, (cynhyrchydd ‘Love Story’ ‘The Godfather’ a ‘Chinatown), teimlais rhyw losgi yn fy mhen, tebyg iawn i’r llosgi da chi’n cael wrth bisho weithiau pan mae gennych cystisis neu broblem cyffelyb. Eni-whw, fe ddylsen i wedi gwneud ‘strand test’ yn gyntaf yn ol y bocs ond roedd hwnna’n golygu hanner awr arall o ffaffio-a gan fod y bocs yn dweud ‘be daring’ fe wnes i daflu fy amheuon i’r gwynt a gorffen fyny hefo barnet sinsir-ginger afiach-NID ‘dire ginger’ o’dd e’n dweud ar y bocs ond dyna beth ges i!!! O’dd y roots yn waeth achos bod y lliw rili wedi pigo’i fyny fan na. Felly rhaid oedd mynd i fy hairstylist medrus, Iram, a thalu 89 punt i gael yr ‘honey blond’ o fy mreuddwydion. Yn anffodus, nid oedd modd gwneud makeover o’r gweddill ohonof – y corff chunky a’r cellulite toreithiog, ond gyda’r haul wedi mynd gallaf guddio fy adennydd bingo unwaith yn rhagor rhag sarhad y cyhoedd. Er, fel mae fy ffrind SPJ yn dweud, da ni’n gweld specimens lot gwaeth yn dre yn blonegio o gwmpas gyda’u muffin tops yn hongian dros eu jins tynn-tynn a’u ffanis wedi cyfuno gyda’i stumogau i greu’r ffenomenen newydd yna ‘stum-ffan’ -yr hyn dwi’n checkio mod i heb esblygu ac yn gwisgo ‘smock’ i osgoi’r amheuaeth bod un yn bodoli!
Eniwei, mae un o’r merched yn gwaith yn annoying tu hwnt. Heddiw, roedd hi’n du HWNT o annoying yn fy mhoenydio unwaith eto am smygu rollies. FACK OFF! Fe wnes i ddweud yn neis, ‘dyw e ddim yn gonsyrn i ti a da ni gyd yn marw eniwei yn y pendraw’. Ond roedd hi’n cario mlaen i bregethu a malu cach. Mae’n un o’r bobol ma sy’n siarad gydag acen rili posh Saesneg er bod hi’n dweud ‘Oh, I’m so Welsh dah-ling’ ac mae’n dangos fod unrhyw wanker yn gallu mynd i Rydychen achos does dim talent da’r fenyw. Mae ei syniadau yn shit ac mae’n gwrthod cefnogi syniadau neb arall. Grrr!!! Mae hefyd yn siarad am ei fackin plant boring byth beunydd. Sai moin gwybod sut wnaeth katie yn ei exams gymnastics!! Sai moin gweld llun o Lucy yn y Daily Post am ennill rhyw wobr cachlyd am wnio! Dwi heb gael plant achos SAIN LICO NHW a sdim byd mwy boring am fam yn brolio am ‘non achievements’ pathetig ei hepil!! Wel, dyna rant heddiw drosto da. Ffeindiai rhywun arall i bitshan am yn y blog nesa. Mae hyn yn hwyl!